“Plîs, dere adre Naomi” – Dyna yw neges mam o dde Cymru i’w merch sydd wedi bod ar goll ers pythefnos.

Aeth Naomi Rees, 15, ar goll ar Awst 15, a bellach mae ymdrech ar droed trwy wledydd Prydain i ddod o hyd iddi.

Mae’r heddlu’n credu bod y ferch o ardal Pontypridd wedi gadael y dref ar drên, a bod hi yng nghwmni Tomas Baker – dyn 20 oed o Tamworth yn Lloegr.

Gyda’r ymchwiliad yn dwysáu, mae teulu’r ferch wedi apelio arni i ddychwelyd adref, ac yn mynnu nad yw hi mewn trybini.

“Dere adre”

“Rydym yn dy garu di cymaint,” meddai Grace Rees, ei mam, o’u cartref yn Rhydyfelin. “Jest dere adre atom ni. Rydym yma yn aros a fyddwn ni byth yn cefnu arnat.

“Mae yna i groeso i ti yma bob tro. Lle bynnag yr wyt ti yn awr, rwyt ti’n gwybod pa mor werthfawr wyt ti i ni. Felly, plîs, ffeindia ffordd o ddychwelyd atom ni.”