Mae elusen o Gymru, sydd eisoes yn gwerthu cwpanau bambŵ, wedi lansio cynnyrch newydd – bwced a rhaw sydd wedi ei wneud o gwm cnoi.

Yn ôl ‘Cadwch Gymru’n Daclus’ dyma’r tro cyntaf erioed i gynnyrch sydd wedi’i wneud yn gyfan gwbl gan ddefnyddio gwm cnoi.

A gobaith y corff yw y bydd y cynnyrch yn “amlygu problem gwm cnoi” gan helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.

Cafodd y bwcedi a’r rhawiau eu creu mewn partneriaeth â chwmni Gumdrop Ltd, cwmni sy’n ailgylchu a phrosesu gwm cnoi, a bellach mae modd eu prynu ar wefan yr elusen.

“Staen”

“Mae sbwriel gwm cnoi yn staen gwirioneddol ar ein strydoedd ac yn ddrud iawn i awdurdodau lleol ei lanhau,” meddai llefarydd ar ran Cadwch Gymru’n Daclus.

“Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn falch o weithio gyda Gumdrop unwaith eto a’n gobaith yw y bydd y cynnyrch hwn yn ysbrydoli pobol i feddwl am bosibiliadau ailgylchu a lleihau faint o sbwriel gwm sydd ar ein strydoedd yng Nghymru.”