Mae rhieni bachgen chwech oed o Gasnewydd yn apelio am roddwr mêr esgyrn er mwyn ei helpu i oroesi.

Cafodd Marley Nicholls ddiagnosis o anaemia aplastig ym mis Gorffennaf. Mae’r afiechyd yn golygu nad yw ei gorff yn cynhyrchu digon o gelloedd gwaed ac mae’n effeithio rhwng 30 a 40 o blant bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

Roedd ei deulu yn gobeithio y byddai ei frawd bach, George, yn addas ond mae’n debyg nad yw’n gymwys, ac nid oes unrhyw un ar y gofrestr genedlaethol yn gymwys ar gyfer y trawsblaniad.

O ganlyniad, mae’r teulu ar frys i ddod o hyd i rywun arall allai fod yn addas. Maen nhw’n cynnal digwyddiad yng Nghanolfan Beaufort yng Nghasnewydd heddiw (dydd Sul, 19 Awst) rhwng 11yb a 4yp yn y gobaith o ddod o hyd i rywun a allai fod yn addas.

Mi fydd profion yn cael eu cynnal ar bobol rhwng 16 a 30 oed ac  maen nhw hefyd yn gobeithio annog mwy o bobl i ymuno a’r gofrestr o roddwyr mêr esgyrn.