Dylai bod gan aelodau Llafur yr hawl i enwebu ymgeiswyr yn y ras am arweinyddiaeth y blaid – yn union fel y mae pleidiau sosialaidd ledled Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau yn dewis ymgeiswyr.

Dyna yw barn Alun Davies, yr Aelod Cynulliad a daflodd ei enw i’r het i olynu Carwyn Jones ddydd Gwener diwetaf (Awst 10), ond sydd heb ennill digon o enwebiadau hyd yn hyn i allu sefyll.

Dan reolau presennol y blaid, dim ond Aelodau Cynulliad sydd yn medru enwebu ymgeiswyr i sefyll am arweinyddiaeth y blaid, a rhaid i bob ymgeisydd gael o leiaf chwech enwebiad.

Mewn blog ar ei wefan, mae Alun Davies wedi beirniadu’r drefn yma gan ddadlau nad yw’n annog Aelodau Cynulliad i wrando ar bobol ar lawr gwlad.

Rhagetholiadau 

Etholiadau primaries – lle mae’r aelodau yn medru dewis ymgeisydd – yw’r ateb, meddai Alun Davies.

“Dw i ddim eisiau unrhyw un i oddef neu dderbyn democratiaeth lle mae’r canlyniad wedi ei bennu o flaen llaw,” meddai wedyn yn ei flog.

“A dw i ddim eisiau democratiaeth lle mae ymgeiswyr yn cael eu dewis mewn cyfarfodydd cudd, neu lle mae ein hetholiadau yn cael eu siapio gan y lleiafrif.

“Yr wythnos hon… mi fydda’ i’n galw bod Llafur Cymru yn mabwysiadu sustem o etholiadau primaries, yn hytrach na dibynnu ar enwebiadau grŵp bychan o gynrychiolwyr etholedig.”

Sut fyddai hynny’n gweithio?

Yn ei flog, mae Alun Davies yn cynnig bod hystings yn cael eu cynnal ym mhob un o ardaloedd Cymru, a bod pob aelod o’r blaid Lafur yn cael pleidlais.

Mi fyddai gan bob un aelod dair pleidlais, ac mi fyddai unrhyw ymgeisydd â dros 15% o’r bleidlais ledled Cymru yn ymddangos ar y papur pleidleisio yn yr hydref.