Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw am sefydlu ‘Banc Tir Amaethyddol’ yng Nghymru.

Ar drothwy ei hymweliad â Sioe Môn yr wythnos hon, mae Leanne Wood wedi cyflwyno ei gweledigaeth ar gyfer amddiffyn ffermydd a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’n dweud bod angen sefydlu system ariannu newydd a fydd yn darparu morgeisi ar gyfradd llog isel i’r ffermwyr hynny sy’n profi anawsterau a newydd-ddyfodiaid.

Mae am weld mecanweithiau yn cael eu cynnig a fydd yn galluogi ffermwyr sy’n denantiaid i brynu eu ffermydd, a hynny trwy drefniant sy’n fforddiadwy.

Bydd y ‘Banc Tir’ hefyd, meddai, â’r gallu i brynu ffermydd newydd sydd ar y farchnad i’w rhentu am bris isel i newydd-ddyfodiaid.

“Tarian genedlaethol”

“Mae Banc Tir Cymru yn cydredeg â chynnig Plaid Cymru i ddarparu incwm sylfaenol i ffermwyr, er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy wedi inni gefnu ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin a phan ddaw’r gyfundrefn gymorthdaliadau gyfredol i ben,” meddai Leanne Wood.

“Gyda’i gilydd, byddai’r polisïau hyn yn ein galluogi i greu tarian genedlaethol i amddiffyn ein ffermydd bach a chanolig er budd cenedlaethol sydd i ddod.”