Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 48 oed o’r Trallwng.

Dydy Carl Shackleton ddim wedi cael ei weld ers dydd Iau.

Mae lle i gredu bod ganddo’i gar VW Golf du, rhif W294 DBH.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.