Mae ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd wedi croesawu’r ffaith eu bod yn gorfod talu rhagor am eu peintiau eleni.

Os am dorri syched ym Mhrifwyl y Bae, rhaid talu am y gwydryn yn ogystal â’r ddiod. Punt yw’r ffi am y gwydryn plastig caled, a nod y cam i’w i leihau gwastraff plastig.

Mae modd ailddefnyddio’r gwydryn yma – ond does dim modd ei ddychwelyd am arian – ac mae disgwyl i ymwelwyr yr Eisteddfod fynd â’r cwpanau adref gyda nhw.

Dyma’r tro cyntaf i’r cynllun gael ei gyflwyno yn yr Eisteddfod – mae sawl gŵyl arall gyda sustem debyg – ac mae’n debyg bod ymwelwyr i’r Bae yn ddigon hapus â hi.

“Mwy na hapus”

“Dw i’n fwy na hapus i dalu punt ychwanegol,” meddai  Carol Davies, o Ben-y-bont, sy’n eistedd tu allan i Far Syched i fwynhau diod yn yr haul.

“Dw i’n mynd i fynd â’r cwpan adre a’i ddefnyddio am byth,” meddai wedyn. “Mae’n mynd i fy atgoffa o’r Eisteddfod a dw i ddim yn mynd i’w daflu i ffwrdd.”

Yn eistedd ar yr un fainc a hi mae Matthew Jones, sydd wedi teithio’r holl ffordd o Baltimore yn yr Unol Daleithiau.

“Mae’n gwneud synnwyr i mi,” meddai yn Gymraeg. “Maen nhw’n gwneud yr un peth yn America, gyda phopeth mwy neu lai. Buaswn i ddim wedi dychmygu bod y mater yn contentious!”

“Gwastraff”

Ar fainc gyfagos mae Sara Jones ac Aled Jones o Gorwen yn trafod y cwpanau, ac yn dweud eu bod yn hoff o’r syniad.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n bwysig iawn ein bod ni yn talu punt, oherwydd mae ‘na gymaint o wastraff plastig,” meddai Sara Jones. “Mae’n broblem i bawb a phopeth.”

Adleisio’r farn honno mae Aled Jones, gan dynnu sylw at y gwaith o lanhau gwastraff plastig ar ôl digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod.

“Dydy pobol ddim yn gweld yr ochr hynny,” meddai. “Dydyn ni ddim yn sylweddoli am y bobol sy’n clirio ar ein holau ni. Efo gwydrau fel hyn rydym ni’n fwy cydwybodus.”

Sarnu

Ond, materion eraill sydd ar feddwl Adrian Evans, o Gaerfyrddin, a Delyth Jones, o Ddolanog.

Meddai Adrian Evans: “Fi’n fwy concerned am orfod talu £5 am y peint!”

“Mae ansawdd y cwpan yn eitha’ da, achos y broblem gyda’r hen blastig arall ‘na ydy eu bod nhw’n cracio,” meddai Delyth Jones. “Mae’n ddigon hawdd sarnu’r ddiod, a cholli mwy na phunt!”