Mae tri dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 54 oed yn Sir Caerffili.
Cafwyd hyd i gorff y dyn mewn eiddo yn Nhref Elliot, Tredegar Newydd am oddeutu 3 o’r gloch brynhawn dydd Sadwrn (Awst 4).
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod, ac mae ei gorff wedi’i adnabod.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y bu farw’r dyn, ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.
Mae dau ddyn o Dredegar Newydd, sy’n 23 a 51 oed, a dyn 47 oed o Aberbargoed wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.