Mae angen system gyfiawnder sy’n fwy teg ac yn fwy effeithlon ar gyfer anghenion Cymru, yn ôl y Cwnsler Cyffredinol.

Dyna fydd Jeremy Miles yn ei ddweud wrth annerch cynulleidfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Awst 4).

Yn ystod y cyfarfod sydd wedi’i drefnu gan Sefydliad Bevan, fe fydd yn dadlau nad yw’r trefniadau presennol yn “addas” ar gyfer Cymru, a bod angen datganoli plismona a chyfiawnder er mwyn rhoi sylw i’r cymhlethdod sy’n bodoli wrth galon datganoli.

Nod Jeremy Miles yw sicrhau system gyfiawnder sy’n hybu cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

Mae hefyd am weld system gyfiawnder yng Nghymru a fydd yn gweld cynnydd mewn tegwch, cydraddoldeb a ffyniant i bawb.

‘Ddim yn addas i’r diben’

“Rwy’n poeni nad yw system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn addas i’r diben, ac mae llinell fympwyol rhwng yr hyn sydd wedi ei ddatganoli a’r hyn sydd heb ei ddatganoli,” meddai.

“O ganlyniad, does dim modd i wasanaethau cyhoeddus fod yn gwbl gyson ac integredig – ac mae hynny’n anfanteisiol i bobol Cymru, sy’n haeddu gwell.”