Mae angen rhagor o eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â sut bydd datganoli yn cael ei heffeithio gan Brexit.
Dyna yw un o’r argymhellion sy’n cael ei gynnig yn adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol.
Mae’r pwyllgor seneddol yma wedi codi pryderon am densiynau rhwng Llywodraethau Cymru ar Alban, a Llywodraeth San Steffan – yn bennaf tros y Mesur Ymadael.
Ac maen nhw’n galw am ragor o eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am ddyfodol datganoli er mwyn atal rhagor o densiwn a chamddealltwriaeth.
“Asesu eto”
“Bydd cyfundrefn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn newid wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, felly mae angen ei asesu eto,” meddai Syr Bernard Jenkin, Cadeirydd y pwyllgor.
“Rydym yn argymell bod y Llywodraeth yn rhoi gwell syniad i ni o’u polisi datganoli ar gyfer yr undeb [Brydeinig] wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Trwy fethu a gwneud hyn, mae camddealltwriaeth yn cael ei feithrin. Ac mae hynny’n achosi rhagor o wrthdaro.”