Mae Heddlu Gwent yn chwilio am ddyn 25 oed yn dilyn ymosodiad yng Nghwmbrân.

Dydy union natur yr ymosodiad ddim wedi cael ei gadarnhau.

Ond yn ôl yr heddlu, fe gafodd ei adrodd wrthyn nhw yn oriau man fore Iau (Gorffennaf 26).

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am Michael Bajjada, y sawl sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol, gysylltu â’r heddlu ar 101.