Mae’r Cymro cyntaf ar ei ffordd i ennill y Tour de France yfory.

Llwyddodd Geraint Thomas i sicrhau ei fuddugoliaeth fawr ar ôl cadw ei jersi felyn yn y treial amser heddiw.

Gorffennodd y Cymro o Gaerdydd gam 20 o’r ras o Saint-Pee-sur-Nivelle i Espelette gyda mantais o funud a 51 eiliad ar ôl gorffen yn drydydd ar y ffordd.

Roedd Tim Dumoulin a Chris Froome 15 a 14 eiliad ar y blaen iddo, ond heb fod ddigon i beryglu ei sefyllfa.

Ef fydd y Cymro cyntaf i ennill ras beicio ffordd fwyaf y byd.

Mae’n efelychu un o’i ragflaenwyr, Syr Bradley Wiggins, wrth lwyddo i droi o fod yn bencampwr Olympaidd at rasio ffordd.

Doedd y beiciwr 32 oed erioed wedi gorffen ymhlith 10 uchaf Grand Tour o’r blaen, ac mae ei lwyddiant yn dilyn anffawd yn y Giro d’Italia y llynedd, pryd y bu’n rhaid iddo dynnu’n ôl ar ôl gwrthdrawiad.

Mae’n ffigur poblogaidd ym myd rasio beiciau, a’i fuddugoliaeth yn cael ei gweld fel un haeddiannol i un sydd wedi cefnogi cymaint ar gyd-chwaraewyr dros y blynyddoedd.