Mae Castell Penfro newydd ailagor ar ôl i dimau o arbenigwyr o’r gwasanaethau brys gwblhau ymchwiliad i ddeunydd amheus a gafodd ei ddarganfod yno.

Roedd y castell wedi bod ar gau ers i Heddlu Dyfed-Powys dderbyn adroddiad o gynhwysydd amheus am 12.30pm ddoe (dydd Gwener).

Mae’r gwasanaeth tân ac achub a thîm ymateb i beryglon y gwasanaeth ambiwlans wedi yno yn ceisio darganfod beth yn union oedd yn y cynhwysydd.

“Mae presenoldeb uchel o wasanaethau brys wedi bod yn yr ardal wrth i’r gwaith hwn gael ei wneud,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’r ymchwiliad bellach wedi’i gwblhau, ac yn ôl asesiad cychwynnol, nid oes hylif amheus na pheryglus yn y cynhwysydd, ond fe fydd archwiliad fforensig yn cael ei wneud ohono.

“Hoffai Heddlu Dyfed-Powys ddiolch i aelodau o’r cyhoedd am eu hamynedd tra oedd y gwaith angenrheidiol yn cael ei wneud.”