Mi gafodd 38 o bobol eu hachub oddi ar draeth yn Llandudno ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 8), ar ôl iddyn nhw gael eu hynysu gan y llanw.

Yn ôl Gwylwyr y Glannau yn Llandudno, mi gawson nhw eu galw i draeth Pen Morfa am tua 3yh yn dilyn adroddiadau bod criw o bobol wedi’u hynysu ar draeth, gyda’r criw’n cynnwys babanod a chyplau gyda chŵn.

Mi lwyddodd y tîm achub i gludo’r 38 o bobol oddi ar y tywod ychydig funudau cyn i’r llanw orchuddio’r lle.

Mi gafodd bad achub Llandudno a Chonwy eu galw yn ystod yr ymdrech fel rhagofal.