Am y tro cyntaf yn hanes datganoli, mae’n ymddangos bod pob un o brif bleidiau’r Cynulliad yn chwilio am arweinydd newydd.

Mae cyfeiriad y pleidiau yng Nghymru bron i gyd yn ansicr bellach gyda phob un, ac eithrio’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn wynebu etholiad i ddewis unigolyn wrth y llyw.

Ceidwadwyr Cymreig

Dydd Mercher [27 Mehefin], fe ddaeth y cyhoeddiad disymwth bod arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi ymddiswyddo.

Er na chafwyd rheswm pam, roedd sïon bod newid yn y gwynt ers tro ac mae’n debyg mai sylwadau’r gwleidydd yn beirniadu cwmni Airbus am godi pryderon dros Brexit oedd yr hoelen olaf.

Yr arweinydd dros dro ac Aelod Cynulliad Preseli Penfro, Paul Davies, yw’r ffefryn i’w olynu, ond mae pobol o fewn y blaid wedi dweud bod angen arweinydd sydd o blaid Brexit, fel Andrew RT Davies, wrth y llyw.

Mae bellach ymgyrch ar Twitter i geisio cael Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch-Saunders, i redeg, gan ei bod o blith yr ychydig rhai yng ngrŵp y Ceidwadwyr Cymreig, sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae golwg360 yn deall bod yr AC wedi dweud wrth gynghorwyr Ceidwadol Conwy ei bod yn ystyried sefyll.

Plaid Cymru

Er nad oes gornest swyddogol yn rhengoedd Plaid Cymru eto, yn ôl rheolau’r blaid mae cyfle bob dwy flynedd i herio’r arweinydd presennol.

Mae’n golygu bod ffenest bellach ar agor i unrhyw un o 10 Aelod Cynulliad y blaid ddweud eu bod am wynebu Leanne Wood mewn cystadleuaeth.

Mae pwysau aruthrol ar Adam Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Rhun ap Iorwerth, AC Môn, i wneud hynny, gyda phwyllgorau etholaethau’r ddau yn eu henwebu.

Ond dydy’r naill na’r llall ddim wedi ddweud yn swyddogol eto bod nhw’n bwriadu herio Leanne Wood.

Mae’r cloc yn ticio, gyda llai nag wythnos i’r ddau ddod at benderfyniad, gan fod y cyfnod enwebu yn cau dydd Mercher nesaf, 4 Gorffennaf.

UKIP Cymru

Prin fydd y bobol sy’n synnu erbyn hyn ond mae newid ar droed unwaith eto yng ngrŵp UKIP yn y Cynulliad.

Bydd aelodau’r blaid yn ethol arweinydd newydd erbyn diwedd mis Gorffennaf, wedi i un garfan o ACau’r grŵp gefnu ar Neil Hamilton a phenderfynu eu bod nhw am i Caroline Jones eu harwain yn ei le.

Ond taniodd Neil Hamilton etholiad arall drwy ddweud ei fod am herio Caroline Jones i hawlio ei arweinyddiaeth yn ôl.

Ac er ei fod wedi cefnogi Neil Hamilton yn y gorffennol, mae’r Aelod Cynulliad, Gareth Bennett, sydd eisiau diddymu’r Cynulliad a thorri nôl ar wariant cyhoeddus ar y Gymraeg, wedi dweud ei fod hefyd eisiau arwain UKIP Cymru.

Hyd yn hyn, dim ond y ddau yna sydd wedi dweud eu bod yn sefyll – dydy Caroline Jones, sy’n arwain y blaid ar hyn o bryd, ddim wedi cadarnhau eto os ydy hi’n bwriadu mynd amdani.

Llafur Cymru

Bydd gan Gymru Brif Weinidog newydd erbyn diwedd y flwyddyn, wrth i Lafur Cymru wynebu etholiad am olynydd Carwyn Jones.

Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yw’r unig un yn y ras hyd yn hyn ond mae llawer o fewn rhengoedd y blaid yn ysu i’w ymuno, er nad oes ganddyn nhw’r niferoedd digonol o enwebiadau eto.

Mae’r rhestr yn cynnwys yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies a’r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.

Bydd gornest Llafur Cymru yn digwydd yn yr hydref, ac mae’n bosibl y bydd yr holl wrthbleidiau wedi ethol arweinwyr newydd yn y cyfamser.