Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod cyffuriau anghyfreithlon wedi’u canfod mewn tafarn yng Nghastellnewydd Emlyn.

Yn ôl yr heddlu, mi gafodd cyffuriau sy’n cynnwys canabis a thabledi y maen nhw’n credu sy’n Diazepam, eu canfod yn nhafarn Bunch of Grapes yn y dre’ yn ystod cyrch ddoe (dydd Sul, Mehefin 24).

Mi gafodd y cyffuriau eu meddiannau oddi ar rai unigolion o fewn y dafarn, ac mae’r heddlu ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad.