Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru tros y Gymraeg, gan gynnwys eu bwriad i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg.

Mae hyn yn groes i safiad eu cyd-ymgyrchwyr iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi beirniadu datganiad Geinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, ddydd Mawrth (Mehefin 5).

Fe gadarnhaodd bod y Llywodraeth yn bwriadu bwrw ati i sefydlu Comisiwn y Gymraeg – corff a fydd yn cymryd lle Comisiynydd y Gymraeg. A dywedodd na fydd Llywodraeth Cymru yn gorfodi rhagor o sectorau i fabwysiadu’r Safonau Iaith – hynny yw, darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg – am y tro.

“Ehangu ein gorwelion”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r “newid pwyslais” o reoleiddio ac annog busnesau preifat i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, tuag at hyrwyddo a hybu’r iaith ymysg y boblogaeth.

Yn ôl y mudiad, cafodd hyn ei “esgeuluso” dros y blynyddoedd diwetha’, a’i dadl nhw yw bod angen “cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn gadarnhaol”.

“Mae’n rhaid ehangu ein gorwelion,” meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad.

“Ac mae rhaglen o’r fath, sy’n cydnabod pwysigrwydd addysg ac sy’n seiliedig ar egwyddorion cynllunio ieithyddol, yn gam sylweddol i’r cyfeiriad iawn.”

Mae hyn yn groes i safbwynt Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi cyhuddo’r Llywodraeth a Gweinidog y Gymraeg o anwybyddu barn y bobol.