Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Heléna Herklots CBE sydd wedi’i phenodi i swydd Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.
Ar hyn o bryd, hi yw Prif Weithredwr Carers UK, yr elusen aelodaeth genedlaethol ar gyfer y 6.5 miliwn o ofalwyr yng ngwledydd Prydain. Mae wedi treulio dros 30 o flynyddoedd yn gweithio yn y maes.
Cafodd swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei chreu gan Lywodraeth Cymru yn 2008, ac mae’n llais annibynnol ac eiriolwyr dros bobol 60 oed a hŷn ym mhob cwr o Gymru.
Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei yrru gan yr hyn mae pobl hŷn yn dweud sydd bwysicaf iddyn nhw, ac mae’n sicrhau mai eu llais hwy sy’n ganolog i bopeth y mae’r Comisiynydd yn ei wneud.
Prif Weinidog Cymru sydd wedi gwneud y penodiad, yn dilyn proses oedd yn cynnwys cynrychiolwyr pobol hŷn yn ogystal â grŵp o Aelodau Cynulliad a oedd yn cynrychioli’r amrywiol bleidiau.
Bydd Heléna yn cael ei phenodi am dymor o bedair blynedd i gychwyn, a bydd yn dechrau yn y swydd ym mis Awst. Mae’r Comisiynydd ar gyflog o £90,000 y flwyddyn.
Gwaith y Comisiynydd
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobol hŷn yng Nghymru;
- Herio gwahaniaethu yn erbyn pobol hŷn yng Nghymru;
- Annog arferion gorau wrth drin pobol hyn yng Nghymru;
- Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobol hŷn yng Nghymru.