Mae clêr yn achosi cymaint o drafferth i drigolion Llanelli, nes bod rhai pobol yn dewis bwyta’u prydau bwyd yn eu ceir, yn ôl gwraig leol.

Ers rhai wythnosau bellach, mae pobol leol wedi bod yn brwydro yn erbyn pla o bryfed sydd i’w weld wedi ymddangos o nunlle.

Un o’r trigolion yma yw Elvira Evans, sy’n byw ar Stryd Dolau, ac sydd wedi gorfod gosod trapiau gludiog yn ei thŷ er mwyn delio â’r broblem.

Mae’n nodi bod y pryfed yma yn “fwy ymosodol” na’r gleren arferol, ac yn honni bod 30-40 pryfyn wedi’u dal gan ei thrap ar un adeg.

“Mae’n hollol afiach,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n methu goddef clêr ta beth. Mae gwneud bwyta pryd o fwyd yn amhosib. Maen nhw’n hedfan o’ch cwmpas.

“Mae rhai pobol, dw i wedi clywed, yn dewis bwyta’u prydau yn eu ceir! Mae’n wael iawn o gwmpas fan hyn i rai pobol.

“Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt yna, ond wrth weini bwyd, dw i’n rhybuddio fy ngŵr, ‘Dere’n glou, mae’r clêr yn glanio’!”

Beth sy’n achosi hyn?

Dyw Elvira Evans ddim yn siŵr o le ddaeth y clêr, ond mae’n nodi bod trigolion wedi wynebu’r un broblem llynedd.

Mae yna sïon, meddai, bod carthffosiaeth wedi’i dympio mewn llyn yn yr ardal, a bod hynny wedi achosi’r pla. Ond, mae hi’n wfftio hyn.

Mae’n dweud bod pibellau carthffosiaeth newydd wedi’u gosod yn yr ardal, ac mai dyna sy’n gyfrifol am hyn i gyd – fe ddechreuon nhw osod y pibellau y llynedd, meddai.

“Tan iddyn nhw ddechrau tyllu o gwmpas fan hyn, roedd y sefyllfa yn normal,” meddai wedyn, gan ategu bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymateb i’r sefyllfa yn “wael iawn”.

Ymateb y Cyngor

Mewn datganiad, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn nodi bod “adnoddau ychwanegol wedi cael eu rhoi ar waith” i ddatrys y broblem, a bod “ymchwiliadau yn parhau” i’r hyn sy’n ei achosi.

Yn ogystal mae’r datganiad yn nodi bod, “staff wrth law i helpu pobl agored i niwed, yn enwedig yr henoed a phobl anabl, os bydd angen cymorth ychwanegol arnynt.”

Mae’r Cyngor wrthi’n cydweithio â “phartneriaid allanol” tros y mater, gan gynnwys  Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dŵr Cymru ac “awdurdodau cyfagos”.

Pryf tŷ yw’r gleren, yn ôl cwmni rheoli plâu sydd wedi profi sampl o’r pla.