Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi marwolaeth sydyn ac annisgwyl ar draeth yn Ynys y Barri ben bore heddiw (dydd Sul, Mehefin 3).

Fe gawson nhw eu galw i gynorthwyo mewn argyfwng meddygol ym Mae Whitmore toc wedi 7.30yb.

Y gred yw fod dyn 43 oed, a oedd yn cymryd rhan mewn triathlon, wedi cael trawiad ar y galon.

Fe gafodd driniaeth CPR gan y gwasanaeth ambiwlans a gwylwyr y glannau, ond bu farw yn fuan wedi hynny.