Mae disgwyl i law trwm achosi llifogydd mewn rhannau o dde Cymru cyn y penwythnos.

Fe fydd y glaw ar ei drymaf o brynhawn ddydd Iau (Mai 31) tan ddydd Gwener (Mehefin 1), ac mae disgwyl i ffosydd, cwteri a nentydd orlifo.

Bydd hyn yn ei dro yn creu trafferth ar heolydd, ac o bosib yn effeithio tai. Mewn ardaloedd dinesig, fe allai afonydd godi’n uwch.

“Cymerwch ofal”

“Mae’n anodd dyfalu patrwm stormydd yr haf, felly rydym yn ennyn ar bobol i wrando ar yr adroddiadau tywydd diweddaraf,” meddai Richard Hancox o Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Os ydych yn gweld llifogydd ar y ffyrdd, plîs peidiwch fentro a gyrru neu gerdded trwy’r dŵr. Mi allai amodau gyrru fod yn eitha’ peryglus, felly cymerwch ofal.”