Rhaid “ailddechrau’r drafodaeth” ynglŷn â chau ffrwd Saesneg ysgol ym Mhowys, yn ôl cynghorydd o’r sir.

Ar ddydd Gwener (Mai 25) fe gyhoeddodd llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth, y byddan nhw’n cefnu ar gynlluniau i gau’r ffrwd yno.

Mi ddaeth hyn, wedi i’r gymuned leisio eu “pryderon” am y cynllun – mae’n debyg yr oedd rhieni eisiau’r “opsiwn” o fedru anfon eu plant i ffrwd Saesneg.

Ond nid dyma ddiwedd y mater, yn ôl Myfanwy Alexander, sy’n gyfrifol am bortffolio’r iaith Gymraeg y Cyngor ac am weld datrysiad i’r “broblem”.

Ffrydiau

“Os mai dim ond llond llaw o ddisgyblion sydd gennych chi mewn dosbarth, mae hwn yn effeithio’r cyllid,” meddai wrth golwg360. “Mae hwn yn effeithio cyllid gweddill y disgyblion.

“Felly rydym ni eisiau ailddechrau’r drafodaeth, a gweithio gyda’r gymuned i ddod o hyd i fodd o ddatrys y broblem hon. Beth sy’n amlwg am yr ardal yw bod rhan fwyaf y rhieni wedi dewis addysg Cymraeg [i’w plant].

“Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gwrando ar bawb, ond yn cefnogi’r camau mae’r ysgol am wneud.”

Eisteddfod

Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn ne Sir Benfro – ar faes Sioe Frenhinol Llanelwedd – yr wythnos hon, ac yn ôl Myfanwy Alexander mae croeso’r bobol leol wedi bod yn wych.

“Does dim llawer o siaradwyr naturiol Cymraeg yn yr ardal, ond maen nhw wedi bod yn weithgar iawn – fel burum yn y dorth os hoffech chi – wrth godi’r pres,” meddai.

“Ond, hefyd wrth godi ymwybyddiaeth am yr iaith. Ac mae hwn yn hollbwysig , achos rydym ni eisiau cynyddu’r nifer o blant sy’n medru manteisio ar addysg Gymraeg. Mae digwyddiad fel hyn yn ffenest siop ar gyfer yr iaith.”