Mae’r heddlu wedi dod o hyd i ddyn 80 oed oedd ar goll o Sir Benfro.

Fe fu Ellis Pollard yn aelod o griw o bobol sydd wedi bod yn seiclo yn y sir dros y dyddiau diwethaf, ond doedd neb wedi ei weld e ers 5 o’r gloch brynhawn ddoe.

Ar y pryd, roedden nhw’n seiclo ar ffordd B4320 ger Castell Penfro.

Ond daeth cadarnhad y prynhawn yma fod yr heddlu wedi ei ddarganfod yn ddiogel.