Mae cyn-reolwr cartref plant yn Llangollen wedi ei gael yn euog o 29 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn bechgyn yn ei ofal.

Roedd Bryan Davies, 71 oed o St Leonards-on-Sea, Sussex, wedi gwadu’r cyhuddiadau a oedd yn ymwneud a 11 bachgen yng nghartref plant Ystrad Hall yn Llangollen rhwng 1976 a 1978.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau fe’i cafwyd yn euog o 20 o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ar 11 o’r cyn-breswylwyr yr uned a oedd yn gofalu am fechgyn hyd at 16 oed.

Roedd Bryan Davies hefyd wedi’i gael yn euog o naw chyhuddiad arall mwy diweddar o greu lluniau anweddus o blant rhwng 2006 a 2012, ac o gymell plant i fod yn rhan o weithredoedd rhyw dros y we.

Ond fe benderfynodd y rheithgor ei fod yn ddieuog o naw chyhuddiad yn ymwneud ag unigolion eraill.

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (ATC) oedd wedi cynnal yr ymchwiliad yn dilyn honiadau gan 11 o ddynion sydd bellach yn eu 50au fel rhan o Ymchwiliad Pallial sy’n ymchwilio i achosion hanesyddol o gam-drin plant

Roedd Bryan Davies wedi cael ei arestio’n wreiddiol gan swyddogion yr ATC ym mis Hydref 2013 ond tra roedd ar fechnïaeth fe ffodd i Malta.

Ym mis Awst 2017 cafodd ei arestio dan Warant Ewropeaidd a’i estraddodi yn ôl i’r Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar ddydd Gwener, 1 Mehefin.