Mae ymgais gan Lywodraeth Cymru i annog y cyhoedd i feicio a cherdded, wedi methu, meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Cafodd y ‘Deddf Teithio Llesol’ ei basio yn 2013, gyda’r nod o wneud hi’n haws i bobol deithio dros bellterau byr ar feic neu ar droed, yn hytrach nag mewn car.

Ac, yn eu hadroddiad diweddaraf, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r, wedi beirniadu’r Llywodraeth am y “diffyg cynnydd” sydd wedi dod yn sgil y ddeddf.

Mae’r pwyllgor yn nodi mai “diffyg arweiniad” gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, sydd yn gyfrifol am hyn, ac wedi galw ar y Llywodraeth i “gryfhau ei harweinyddiaeth”.

“Dysgu gwersi”

“Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu gwersi ar y cynnydd hyd yn hyn, Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

“[Ac i] rhoi arweinyddiaeth well, a llawer mwy o arian i sicrhau bod uchelgeisiau gwreiddiol y Ddeddf yn cael eu gwireddu.

“Drwy roi’r elfennau sylfaenol hyn ar waith, gallwn gael mwy o bobl i deithio’n weithredol a all roi buddion trawsbynciol i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’r unigolyn a’r gymdeithas ehangach.”

Argymhellion

Mae’r pwyllgor wedi cynnig 24 o argymhellion, yn cynnwys:

  • Dylai seiclo a cherdded gael ei hyrwyddo trwy Iechyd Cyhoeddus Cymru;
  • Dylai’r Llywodraeth gydweithio’n fwy â chyrff proffesiynol datblygwyr a pheirianwyr sifil;
  • Dylai’r Llywodraeth ddyblu’r swm sydd eisoes yn cael ei wario ar y cynllun.