Mae cerddor o’r Wladfa wedi symud i Gymru am gyfnod o chwe mis er mwyn rhoi’r cyfle i’w blant “foddi yn y diwylliant Cymraeg”.

Mae Alejandro Jones o Drevelin, sy’n aelod o’r band ElSurco Duo, wedi dod â’i deulu i Gymru yn ystod cyfnod yr haf, lle mae’n gobeithio y byddan nhw’n cael blas go iawn ar ddiwylliant eu hynafiaid.

Mae’n dweud bod ef a’i wraig wedi gwneud y penderfyniad i ymweld â Chymru ar ôl i Ysgol y Cwm yn Nhrevelin agor ei drysau am y tro cynta’ yn 2016.

Mae’r ysgol yn cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Sbaeneg i blant rhwng tair a saith oed, ond fe ddaeth yn “rhy hwyr” i blant y cerddor.

“Rydan ni wedi dechrau meddwl [mynd i Gymru] achos roedd cynllun yr ysgol yn rhy hwyr iddyn nhw, achos saith oed ydi’r plant hynaf [yn yr ysgol], a 10 ydi’r mab ac 18 ydi’r ferch,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r ferch wedi cael ei derbyn fel gwirfoddolwr yng Nglan-llyn ger Llyn Tegid, ac mae’r mab wedi cael ei dderbyn yn Ysgol OM Edwards am y cyfnod, ac mae hwn yn grêt i ni er mwyn iddyn nhw foddi yn y diwylliant Cymraeg.”

Ffermio, canu ac ymchwilio

Yn ystod y chwe mis nesa’, mae Alejandro Jones yn dweud ei fod am rannu ei amser yng Nghymru rhwng canu mewn gwahanol lefydd ar y penwythnosau, a helpu ar ffermydd cyfeillion yn ardal Llanuwchlyn yn ystod yr wythnos.

“Dim dyma’r tro cyntaf dw i yma,” meddai eto. “Dw  i wedi bod yma ers 2005, a dyma’r pumed tro i mi ddod i Gymru.

“Mae’r lle yn Llanuwchlyn a’r ardal yn llawn o ffrindiau, a dyna lle dw i yma nawr yn ei helpu i ffermio, a dw i’n mynd ar benwythnosau i ganu mewn gwahanol lefydd.”

Mae’n ychwanegu hefyd ei fod yn awyddus i ddysgu mwy am hanes ei hynafiaid o Gymru, ac mae’n nodi mai un o’i gyndeidiau oedd John Daniel Evans (1862-1943), sylfaenydd y felin fawr a roddodd yr enw i Drevelin.

Dyma Alejandro Jones yn cyflwyno hanes y melinydd a’r anturiaethwr hwnnw…

Y daith

Fe fydd Alejandro Jones yn cychwyn ei daith gerddorol fis nesa’, gyda’r cyfle cyntaf i’w glywed yn y Iorwerth Arms, Bryngwran ar Fehefin 1.

Fe fydd y daith yn mynd yn ei blaen trwy gydol yr haf, gan orffen ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Fedi 7.