Rhaid gweithredu “ar frys” i fynd i’r afael â’r broblem o unigrwydd yng Nghymru.

Dyna fydd Samariaid Cymru yn rhybuddio Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, heddiw (dydd Mercher, Mai 23).

Mae’r pwyllgor wrthi’n cynnal ymchwiliad dan y teitl ‘Rhwystro Hunanladdiad yng Nghymru’, ac mae disgwyl i’r elusen gyflwyno tystiolaeth iddyn nhw ar y testun.

Pryder Samariaid yw bod cysylltiad rhwng unigrwydd, anhwylder meddyliol a hunanladdiad; a’i nod yw i dynnu sylw at hyn, ac at ehangder y broblem yng Nghymru.

Yn ôl arolwg yr elusen, mae 20% o oedolion Cymru yn aml yn teimlo’n unig, neu’n teimlo eu bod wedi eu hynysu, ac mae cyfraddau hunanladdiad yn llawer uwch mewn ardaloedd difreintiedig.

Problemau “anferthol”

“Mae’r ymchwil yn dangos bod unigrwydd ac unigedd yng Nghymru, yn broblemau iechyd cyhoeddus anferthol,” meddai Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid.

“Yn ogystal a dangos ein hymchwil – gwaith sy’n tynnu sylw at y cysylltiad rhwng hunanladdiad a thlodi – byddwn yn galw [ar awdurdodau] i weithredu ar frys.

“Mae unigedd yn medru cael effaith fawr ar iechyd meddwl, a’n ffactor sy’n medru annog hunanladdiad.”