Mae contractau dim oriau a chontractau byr-dymor yn achosi rhagor o dlodi mewn gwaith, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Daw’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r casgliad hwn ar ôl ystyried sut y dylai’r economi fod o fudd i bobol sydd ar gyflogau isel.

Mae’n dweud bod rhagor o weithio achlysurol wedi golygu nad oes gan nifer o bobol ffynhonnell reolaidd o incwm, a’u bod yn gorfod ymdrechu i ymdopi ar gyflog isel.

Un o brif argymhellion y pwyllgor er mwyn datrys y broblem hon, yw na ddylai Llywodraeth Cymru roi cymorth ariannol, boed hynny trwy gontractau, grantiau neu benthyciadau, i gwmnïau sy’n defnyddio contractau dim oriau.

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai’r Llywodraeth ysgogi cwmnïau i dalu’r cyflog byw gwirfoddol, sef £8.75 yr awr – sy’n uwch na’r cyflog byw cenedlaethol.

Sicrhau tegwch

“Rydym oll yn credu ym mhwysigrwydd gwaith, nid dim ond fel modd o ddarparu incwm, ond o ran mateision ehangach gwaith i unigolyn, ei deulu a’i gymuned,” meddai John Griffiths, cadeirydd y pwyllgor.

“Fodd bynnag, mae newidiadau i arferion cyflogaeth a’r mathau o waith sydd ar gael yn cynyddu lefelau tlodi mewn gwaith. Mae hyn annerbyniol.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi yn greadigol, er mwyn sicrhau bod gan bobol sy’n byw yng Nghymru fynediad at waith o ansawdd da sy’n talu cyflog da.”