Mae swyddogion sy’n ymchwilio i farwolaeth yng Nghaerdydd ddydd Llun yr wythnos hon (Mai 14), wedi arestio ail ddyn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Richmond, y Rhath, am 10.20yh, ar ôl i aelod o’r cyhoedd ganfod dyn ar y stryd.

Er iddo dderbyn triniaeth feddygol, bu farw’r dyn 48 blwydd oed yn y fan a’r lle. Does dim esboniad i’r farwolaeth hyd yma, yn ôl Heddlu De Cymru.

Bellach, mae dyn 23 blwydd oed o’r Sblot  a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad, wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Ond, trwy ymchwilio i’r achos, mae dyn 39 blwydd oed o’r Rhath wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyfrannu at gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.

Mae heddlu yn parhau i ymchwilio i’r farwolaeth, a’n apelio am ragor o wybodaeth.