Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ariannu’r wasg yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r “diffyg plwraliaeth ac amrywiaeth sydd gennym ar hyn o bryd”.

Dyna yw argymhelliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn ei adroddiad diweddaraf dan y teitl, ‘Ymchwiliad i Newyddiaduriaeth Newyddion yng Nghymru’.

Mae’r pwyllgor yn nodi bod sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig wedi osgoi ariannu’r wasg yn y gorffennol oherwydd eu bod yn ofni “llesteirio rhyddid y wasg”.

Ond, mae’r Aelodau Cynulliad yn teimlo bod y sefyllfa sydd ohoni yng Nghymru, bellach yn galw am ymyrraeth wladwriaethol – a hynny “er budd y cyhoedd”.

Cymhorthdal

“Credwn fod yr amser wedi dod i ystyried a ddylid defnyddio cymhorthdal anuniongyrchol yn fwy creadigol i helpu darparwyr llai,” meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad yn nodi bod golwg360 – sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth trwy’r Cyngor Llyfrau – yn enghraifft o lwyddiant y drefn yma, ac yn argymell cefnogi’r wasg cyfrwng Saesneg yn yr un modd.

Yn ogystal, mae’r pwyllgor yn dweud y gallai darparwyr newyddion lleol gael trafferth yn denu cwmnïau i hysbysebu ar-lein, a’n cwestiynu gallu’r wasg i ddibynnu ar y refeniw yma mwyach.