Ar ôl cyfrannu at lwyddiant cyfres o bleidleisiau yn erbyn cynlluniau Brexit y Llywodraeth yn Nhŷ’r Arglwyddi yr wythnos ddiwethaf, mae Dafydd Wigley yn galw ar Aelodau Seneddol i wneud safiad tebyg.

“Mae’n pleidleisiau ni’n rhoi cyfle i Aelodau Seneddol wneud safiad a mynnu cytundeb a fydd yn sicrhau aros yn yr undeb tollau ac osgoi ffin galed yn Iwerddon,” meddai wrth Golwg360.

“Rhaid i Aelodau Seneddol ddeall pwysigrwydd yr her sydd o’u blaenau – mae rhwystro’r llywodraeth rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn fater a ddylai ddod o flaen unrhyw ystyriaethau lleol na phleidiol.

“Ganddyn nhw yn unig bellach mae’r gallu i rwystro’r fath drychineb economaidd rhag digwydd.”

Dywedodd ei fod yn credu bod mwyafrif clir o Aelodau Seneddol o blaid cynnal cysylltiadau agos â’r Undeb Ewropeaidd.

“Y gwir amdani ydi mai dim ond tua 60 o Dorïaid sy’n daer dros adael yr undeb tollau, ac mae’n hen bryd iddyn nhw gael eu rhoi yn eu lle,” meddai.

‘Dim cytundeb = dim Brexit’

Yn ôl Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru, os bydd Aelodau Seneddol yn gwrthod telerau cytundeb terfynol rhwng llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, dylai hynny olygu nad yw Brexit yn digwydd o gwbl.

“Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith mor drychinebus ar ddiwydiannau Cymru, yn enwedig ar ddiwydiannau cynhyrchu ac amaethyddiaeth, fel na ddylai gael ei ystyried fel dewis credadwy,” meddai.

“Dydi pleidlais ‘cymryd neu wrthod’ lle mae ASau yn cael dewis rhwng bargen ddrwg neu ddim bargen o gwbl yn ddigon da.

“Os nad yw’r fargen derfynol yn ddigon da, dylid ei gwrthod, a dylai ‘dim bargen’ olygu ‘dim Brexit’ – dylid diddymu Erthygl 50.”

Clod gan un o arglwyddi Llafur

Mae un o arglwyddi’r Blaid Lafur ac ymgyrchydd blaenllaw yn erbyn Brexit wedi canmol cyfraniadau Dafydd Wigley i’r dadleuon yn y senedd.

“Mae’n gwneud gwaith aruthrol dda,” meddai’r Arglwydd Andrew Adonis mewn dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi nos Fercher.

“Mae Cymru wedi cael ei chynrychioli’n wych ganddo – a phe bai gan Loegr lais mor bwerus ag ef yn y Siambr hon, dw i’n meddwl y gallai fod gennym Deyrnas Unedig ffederal gyda Llywodraeth a Senedd i Loegr ers amser maith.”

Dywedodd Andrew Adonis ei fod yn rhannu pryderon Dafydd Wigley ac eraill am ddiffyg llais i Gymru a’r Alban ym Mhrydain yn y dyfodol.

“Yn wir, os bydd Brexit yn digwydd yn yr 11 mis nesaf, bydd gwladwriaeth unedol Lloegr – sy’n rhedeg y Deyrnas Unedig i bob pwrpas – yn fwy pwerus nag yw hi ar hyn o bryd hyd yn oed, gan na fydd yn rhannu dim o’i sofraniaeth a grym gyda Brwsel.

“Dw i’n amau y bydd hyn yn datblygu’n broblem gynyddol.”