Mae’r heddlu’n apelio am dystion neu wybodaeth am helynt ymysg criw o bobl ifanc 17 a 18 oed yn ardal Gibbonstown o’r Barri tua 10 o’r gloch neithiwr.

Cafodd llanc 17 oed ei anafu ac aed ag ef i Ysbyty Prifysgol Cymru am driniaeth.

Cafodd llanc18 oed lleol ei arestio ar amheuaeth o anafu bwriadol, ac mae yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd ar hyn o bryd.

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555111 a nodi cyfeirnod 1800139508.