Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yn yr hydref.

Daw ei gyhoeddiad ar ôl misoedd o fod dan bwysau ers marwolaeth Carl Sargeant ddyddiau ar ôl iddo ei ddiswyddo o’i gabinet ym mis Tachwedd.

Roedd eisoes wedi dweud flynyddoedd yn ôl, fodd bynnag, nad oedd yn bwriadu arwain Llafur yn etholiad nesaf y Cynulliad ac mae dyfalu wedi bod ers tro pwy fyddai ei olynydd mwyaf tebygol.

Erbyn yr hydref fe fydd wedi dal y swydd o Brif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru am bron i naw mlynedd ers iddo olynu Rhodri Morgan yn 2009.

Fe wnaeth ei gyhoeddiad ar ddiwedd ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno’r pnawn yma.

‘Araith olaf’

“Dyma fy nawfed araith Cynhadledd fel eich arweinydd,” meddai.

“Rydych chi’n fy adnabod i’n bur dda bellach.

“Gyda’n gilydd rydym wedi ennill buddugoliaethau nodedig, yn aml yn erbyn yr ods.

“Ond mae pobl nad ydw i wedi bod yn deg atyn nhw yn ddiweddar. A’m teulu ydyn nhw.

“Dw i ddim yn meddwl y gall neb wybod sut oedd yr ychydig fisoedd diwethaf. Neb, heblaw Lisa a’r plant. Maen nhw wedi fy nghario i drwy’r amseroedd tywyllaf, Dw i wedi gofyn gormod ganddyn nhw, ac mae’n bryd imi feddwl beth sy’n deg iddyn nhw.

“Ac felly, dyma fydd y gynhadledd Llafur Cymru olaf y byddaf yn ei hannerch fel arweinydd y blaid.

“Dw i’n bwriadu – fel dw i wedi dweud bob amser – bod yma i ateb pob cwestiwn. Ond dw i’n bwriadu sefyll i lawr yn yr hydref, gan alluogi Prif Weinidog newydd i fod yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn

“Bryd hynny bydd yn gwneud synnwyr i gael dechrau newydd. I’m teulu, i’m plaid ac i’m gwlad.

“Ac felly Gynhadledd, hwyl fawr a diolch. Cymru am byth. Llafur Cymru am byth.”

‘Cyfraniad hanesyddol’

Wrth siarad gyda Golwg360 ar ôl yr araith, dywedodd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies, iddo gael ei synnu gan gyhoeddiad Carwyn Jones.

 “Roeddwn i’n teimlo yn eithaf emosiynol yn clywed Carwyn yn siarad y prynhawn yma,” meddai.

“Doeddwn i ddim yn gwybod bod e’n mynd i ddweud hyn, doeddwn i ddim yn disgwyl hyn.

“Dw i wedi bod ar y daith gyda Carwyn dros y blynyddoedd, fi oedd un o’r bobol wnaeth ei enwebu fe bron i ddegawd yn ôl.

“Trwy Carwyn a thrwy ei arweinyddiaeth fe, rydyn ni wedi gweld datganoli ac aeddfedu ac rydyn ni wedi gweld y ffordd rydyn ni’n trafod ein gwleidyddiaeth ni yn aeddfedu.

“Felly, mae cyfraniad Carwyn wedi bod yn bwysig – yn hanesyddol o bwysig.”