Mae Dafydd Elis-Thomas wedi awgrymu’n gryf yng nghynhadledd Llafur Cymru ei fod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd annibynnol dros Dwyfor Meirionnydd yn etholiad nesaf y Cynulliad.
Yn fuan ar ôl cael ei ailethol fel Aelod Cynulliad yn 2016 gadawodd Blaid Cymru i fod yn aelod annibynnol, ac mae’n weinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn llywodraeth Lafur Carwyn Jones ers mis Tachwedd y llynedd.
“Fy mwriad yw sefyll eto,” meddai wrth annerch cyfarfod ymylol Cymdeithas Cledwyn y Blaid Lafur yn Llandudno heddiw.
“Dw i’n meddwl bod arna’ i hynny i’r etholaeth, i roi’r cyfle iddyn nhw bleidleisio amdana’ i fel Annibynnwr.”
Pan gafodd ei holi gan ohebydd Golwg360 wedyn, fodd bynnag, mynnodd nad oedd wedi penderfynu eto.
“Mae’n fater i’r etholwyr a phleidiau eraill yn yr etholaeth i benderfynu ydyn nhw’n rhoi ymgeiswyr ymlaen,” meddai.
“Fydda i ddim yn dod i benderfyniad terfynol tan fod yr etholiad wedi’i alw.”
Yn ei anerchiad, beirniadodd aelodau Plaid Cymru am eu ‘casineb’ at aelodau Llafur, a galwodd ar y chwith i gydweithio er lles Cymru.
“Mae’r syniad fod y Blaid Lafur yn gormesu Cymru yn bizarre,” meddai.