Carolyn Harris, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, yw dirprwy arweinydd Llafur Cymru, ar ôl curo’r Aelod Cynulliad Julie Morgan yng ngholeg etholiadol y blaid.

Pleidlais yr undebau a’r aelodau etholedig a sicrhaodd y fuddugoliaeth iddi, gan fod Julie Morgan ymhell ar y blaen ymhlith pleidleisiau aelodau cyffredin.

Y canlyniadau llawn fesul gwahanol adrannau’r coleg etholiadol oedd:

Undebau: 21.4% i Carolyn Harris, 13.1% i Julie Morgan;

Aelodau: 11.6% i Carolyn Harris, 21.7% i Julie Morgan;

Aelodau Etholedig (ASau, ACau, ASE): 19.6% i Carolyn Harris, 13.6% i Julie Morgan.

Pwyslais ar ymgyrchu

Wrth gael ei holi gan ohebydd Golwg360 yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, meddai Carolyn Harris:

“Y swydd ddisgrifiad yw bod yn ymgyrchydd, rhywbeth dw i’n rhagori ynddo os dw i’n dweud fy hun.

“Rydym ni’n byw gyda Llywodraeth Dorïaidd ac mae’n effeithio ar Gymru yn fawr. Mae Brexit yn mynd i effeithio ar Gymru’n fawr, mae gennym ni lymder, mae gennym ni faterion pwysig fel menywod y 1950au [WASPI], fel credyd cynhwysol.

“Mae’r materion hyn i gyd yn effeithio ar fywydau pobol ac mae o ganlyniad i Lywodraeth Dorïaidd.

“Felly fy rôl i fydd i fynd allan i’r cymunedau, nid i aelodau yn unig, dw i ddim yn mynd i siarad â’r 25,000 o aelodau Llafur, rydym ni’n gwybod lle maen nhw, dw i’n mynd i siarad â’r tair miliwn o bobol sydd efallai heb gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, achos doedden nhw ddim yn credu bod e’n berthnasol iddyn nhw.

“Dw i’n mynd i ddweud wrthyn nhw mor berthnasol a phwysig yw gwleidyddiaeth i’w bywydau a’u hannog nhw i gefnogi’r Blaid Lafur, a deall mai ni yw’r blaid sy’n mynd i edrych ar eu holau nhw.

“Pobol yw fy mlaenoriaeth i.”

Trefn bleidleisio

Daw’r canlyniad ar y diwrnod pan gyhoeddodd Carwyn Jones adolygiad o’r ffordd y caiff yr arweinydd a’r dirprwy arweinydd eu hethol, ar ôl pwysau am newid y drefn i un aelod un bleidlais.

Mae graddau poblogrwydd Julie Morgan ymhlith yr aelodau cyffredin yn sicr o ddwysáu’r pwysau dros drefn o’r fath.

Wrth longyfarch Carolyn Harris, dywedodd Carwyn Jones:

“Am y tro cyntaf erioed mae gennym Ddirprwy Arweinydd Llafur Cymru.

“Hoffwn longyfarch Carolyn Harris ar ei buddugoliaeth a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.

“Dw i hefyd yn diolch o galon i Julie am ei hymgyrch a’r cyfraniad gwych mae hi eisoes wedi’i wneud i Lafur Cymru ac y bydd hi’n dal i’w wneud yn y blynyddoedd i ddod.”