Mae nifer y bobol yng Nghymru sy’n rhoi organau cyn iddyn nhw farw ar ei lefel uchaf erioed, yn ôl ystadegau newydd.

Yn Llywodraeth Cymru, fe wnaeth 74 o bobol roi organau yn 2017/18, sef y nifer mwyaf o roddwyr organau yng Nghymru erioed.

Daw hyn wrth i wasanaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ddweud bod y lefel ar ei huchaf yno hefyd, gyda 1,575 o bobol wedi rhoi organau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Y system yng Nghymru

Ers Rhagfyr 2015, mae Cymru wedi gweithredu deddf ‘cydsyniad tybiedig’ o roi organau.

Mae hynny’n golygu os nad yw pobol yn cofrestru i ‘optio allan’ o’r system, maen nhw’n cael eu hystyried fel rhai sydd heb wrthwynebiad i roi organau.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i weithredu deddf o’r fath, ac mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i symud i’r union gyfeiriad.

“Symud i’r cyfeiriad cywir”

Wrth groesawu’r cynnydd yng Nghymru, mae’r Ysgrifennydd Iechyd ym Mae Caerdydd, Vaughan Gething, yn dweud bod y ffigyrau diweddaraf hyn yn gam i’r “cyfeiriad cywir”.

Er hyn, mae’n ychwanegu bod angen mwy o flynyddoedd o ddata er mwyn gweld pa “effaith” mae’r newid yn y gyfraith wedi’i chael.

“Mae pob rhoddwr organau yn arbennig o werthfawr,” meddai. “Mae tua 300 o bobol yn marw mewn amgylchiadau lle mae’n bosibl rhoi organau.

“Rydyn ni’n annog pawb i gytuno i fod yn rhoddwr organau felly, ac i deuluoedd fod yn barod i gefnogi’r penderfyniad hwnnw.”