Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams wedi dweud wrth golwg360 fod y ffrae tros ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru’n ei atgoffa o’r dyfyniad enwog ‘for Wales, see England’.

“Mae’n rhan o’r peth yna, ‘for Wales, see England’ yn Encyclopedia Britannica, gafodd ei gyhoeddi yn America, gyda llaw, y rhifyn cynta’ ohono fo.

“Os wyt ti’n sbïo am Gymru neu Wales, mae’n deud ‘see England’. Be’ sy’n fwy diddorol, falle, ydi pan wyt ti’n edrych o dan ‘England’ am rywbeth am ‘Wales’ a does ’na lawer o ddim byd yna.”

‘Ailenwi Pont Hafren’

Dywedodd fod ailenwi’r bont yn Bont Tywysog Cymru’n “wirion bost” a’i fod naill ai’n “fater o dwpdra bo nhw heb feddwl be’ fysa’r canlyniad, neu fod o’n fater bwriadol o’n rhoi ni yn ein lle”.

Mae’n teimlo mai Pont Hafren fydd enw pawb ar y bont o hyd, beth bynnag, ac mai “ychydig iawn fydd yn ei galw hi’n Bont Tywysog Cymru”.

Ond mae’n dweud mai mater i Loegr ddylai hyn fod, ac na ddylid talu gormod o sylw i’r helynt yng Nghymru. Ond mae hefyd yn dweud y byddai’n “barod i brotestio” a chodi’r mater gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns “pe bai’n rhaid… os does gynnon ni ddim byd arall i’w wneud.”

Dywedodd Hywel Williams fod “traddodiad” yng Nghymru o ailenwi llefydd yn deyrnged i aelodau’r teulu brenhinol, ond mae’n dweud nad yw’n credu ei “fod o’n gwneud lot o les iddyn nhw yn y tymor hir”.

“Roedd cynnig ar un adeg i alw Prifysgol Morgannwg yn Lady Diana University.

“Dim byd yn erbyn Lady Diana, ond mae enwi sefydliad addysg uwch ar ei hôl hi, oedd o’n cael ei weld yn amhriodol bryd hynny.”

Rod Liddle

Ac wrth ymateb i golofn Rod Liddle yn y Sunday Times am yr helynt, mae’n dweud mai “anwybodaeth” y Saeson sy’n gyfrifol am y fath agwedd tuag at Gymru a’r Gymraeg.

“Dw i yn clywed pobol yn deud yn eitha’ aml bod ’na ormod neu ddim digon o lefariaid neu gytseiniaid yn Gymraeg,” meddai. “Hynny yw, mae pobol sy’n meddwl bo nhw’n gwybod, yn amlwg ddim! Dydi o ddim mor anghyffredin â hynny.

“Mae’n rhywbeth sy’n cael ei daflu allan o bryd i’w gilydd. Ydi o’n fater o gasineb? Na! Dw i’n meddwl mai anwybodaeth ydi o.

“Dw i’n meddwl bod ’na’r ffasiwn beth â be’ maen nhw’n alw’n wilful ignorance ymysg rhai pobol sy’n gwneud bywoliaeth o sgwennu colofnau anwybodus.

“Ydi o’n fater o gasineb? Na! Dw i’n meddwl bod y dyn yn brin o rywbeth i’w ddeud, a deud y gwir. Os ti isio copi hwyr brynhawn Sadwrn, ti isio mynd i’r pýb efo fo.”

‘Fel hyn fuodd hi erioed’

Ond yn ôl Hywel Williams, mae ailenwi’r bont a sylwadau Rod Liddle ill dau yn awgrymu nad yw Lloegr yn “cymryd sylw o be’ sy’n digwydd ar y cyrion”.

“Felly fuodd hi erioed o ran Lloegr, y Saesneg a’r Gymraeg. Nhw sydd ar eu colled yn y bôn.”