Mae pêl-droediwr Ipswich a Chymru, Emyr Huws wedi dweud ei ddweud ar Twitter am safbwyntiau arweinydd y Blaid Lafur ynghylch ffrae trethi Google.

Dywedodd Jeremy Corbyn mewn neges ddydd Iau fod Google wedi cyhoeddi mai cyfanswm eu bil trethi oedd £50m, er bod eu gwerthiant yn cyfateb i bron i £6bn, ac felly fod y Ceidwadwyr yn “rhoi rhwydd hynt i leiafrif elitaidd beidio â thalu eu siâr”.

Ychwanegodd nad yw Prydain yn “dlawd” ond yn destun “lladrad”.

Ond wrth ymateb i’r neges yn oriau man fore heddiw, awgrymodd Emyr Huws, sydd wedi’i anafu ar hyn o bryd, fod Jeremy Corbyn yn “cynnig dwyn oddi ar talwyr trethi uwch i wneud yn iawn amdano”.

Ymateb

Yn dilyn neges Emyr Huws am 2.15 fore heddiw, mae sawl un wedi ymateb yn chwyrn iddo, gyda’r neges hon yn cyfeirio at ei gefndir dosbarth gweithiol:

A’r cwestiwn uniongyrchol yma’n llawn anghrediniaeth:

A gair o gyngor yn yr ymatebion hyn:

Amddiffyn Emyr

Ond mae rhai wedi amddiffyn sylwadau Emyr Huws hefyd:

Ymddiheuro

Ar ôl 70 o ymatebion i neges Emyr Huws, a gafodd ei hail-drydar bymtheg o weithiau a’i hoffi 121 o weithiau, fe gyhoeddodd y chwaraewr ymddiheuriad ac eglurhad.

Dywedodd: “Mae’n deg [dweud] ’mod i ddim wedi cael addysg dda ar wleidyddiaeth felly ymddiheuriadau os cafodd unrhyw un ei sarhau ond pe bai arian trethi’n cael ei wario’n well ar bethau fel y Gwasanaeth Iechyd a chyflogau’r Gwasanaeth Iechyd, fyddai hyn ddim yn ddadl.”

Anaf

Mae Emyr Huws wedi’i anafu ar hyn o bryd a fydd e ddim yn chwarae am weddill y tymor ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Ond mae wedi dechrau ymarfer unwaith eto’r wythnos hon.

Ymunodd e ag Ipswich ar fenthyg o Gaerdydd ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo yn 2017. Fe dderbyniodd e gytundeb a fyddai’n golygu llai o arian iddo. Roedd yn cael ei ganmol bryd hynny am flaenoriaethu pêl-droed tros arian.

Ac yntau’n hanu o Lanelli, fe ddechreuodd ei yrfa gyda thîm ieuenctid Abertawe cyn symud i Manchester City yn bymtheg oed. O’r fan honno, ymunodd â Wigan cyn dychwelyd i Gymru at Gaerdydd yn 2016-17. Fe dreuliodd e gyfnodau ar fenthyg gyda Northampton, Birmingham a Huddersfield yn ogystal.