Ymosodwr Real Madrid ydi’r chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer mwya’ o goliau dros ei wlad.

Yn ystod gêm gyntaf Ryan Giggs yn hyfforddwr Cymru yn erbyn Tsieina yn Nanning heddiw, fe rwydodd Gareth Bale deirgwaith.

Trwy wneud hynny, fe aeth heibio i record Ian Rush o 28 o goliau dros Gymru. Mae cyfanswm Gareth Bale erbyn hyn yn 29.

Roedd hi’n gêm unochrog iawn yn Nanning, gyda Chymru’n ennill 0-6. Fe lwyddodd Sam Vokes i sgorio dwy o goliau, a Harry Wilson i ddod o hyd i gefn y rhwyd ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.