Ni fydd Cymdeithas Gymreig Gorllewin Awstralia yn para’n llawer hirach oni bai bod aelodau ifanc yn ymuno yn y dyfodol agos.

Dyna yw pryder Eluned Bevan, Cymraes Gymraeg sy’n wreiddiol o Ddolgellau ac sy’n wraig i Lywydd y Gymdeithas, Hugh Bevan. Fe symudodd y ddau i ardal dinas Perth yn 1972.

“Rydym yn gwneud y gorau gallwn ni, ond dw i ddim yn gweld y gymdeithas Gymreig a’r capel Cymreig yn para yn hir iawn,” meddai Eluned Bevan.

“Unwaith eith yr aelodau sydd rŵan yn tynnu at eu nawdegau, os na gawn ni crop arall [ifancach] yn dod i mewn, go brin y gallwn ni barhau.”

Mae’n dweud eu bod “wedi trio pob dim” i ddenu aelodau, ond mae’n pryderu bod “dim amser” â phobol yn awr, a bod gwell gan bobol ifanc gynnal digwyddiadau eu hunain mewn tafarndai.

Y gymdeithas

Mae’r gymdeithas yn cyfarfod hyd at bum gwaith y flwyddyn i giniawa, ac mae ambell un yn rhugl yn y Gymraeg – gydag Eluned Bevan ei hun wedi dysgu’r iaith i sawl aelod.

Ar un adeg, roedd ganddyn nhw 100 o aelodau, gyda nifer tebyg hefyd yn aelodau o gapel Cymreig Perth. Bellach dim ond 34 aelod sydd gan y gymuned, ac 20 yn unig yn mynd i’r capel.

Mae Eluned Bevan hefyd yn tynnu sylw at gymanfa ganu flynyddol y capel a ddenodd 300 o bobol y llynedd, ond mae’n cydnabod bod y ffigwr yma yn is na phan oedd y gymuned ar ei hanterth.