Mae digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn mewn protest yn erbyn penderfyniad y cyngor sir i beidio â chwifio baner sy’n dathlu mis hanes pobol Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol [LGBT].
Mae 678 o bobol hefyd wedi arwyddo deiseb yn galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i wyrdroi ei benderfyniad.
Yn ôl y digwyddiad ar Facebook, dydi’r trefnwyr ddim am i’r cyngor “gael ei weld yn hen ffasiwn, plwyfol neu homoffobig/trawsffobig”.
“Felly dewch i’w helpu i ddathlu mis hanes LGBT yn Sir Gâr drwy chwifio baneri rhyddid,” meddai trefnwyr y brotest.
“Dewch â baneri, gwisgwch liwiau’r enfys, a gwnewch stŵr!”
Penderfynu peidio â chwifio’r faner
Fe bleidleisiodd cynghorwyr i beidio chwifio’r faner, a hynny am fod pryderon dros y byddai grwpiau eraill am i’r Cyngor chwifio baner “i godi ymwybyddiaeth o’u hachos nhw” hefyd.
“Mae dau gynnig wedi cael eu rhoi gerbron y Cyngor yn y misoedd diwethaf gan y Cynghorydd Andre McPherson,” eglura llefarydd ar ran y Cyngor.
“Roedd y cynnig cyntaf yn gofyn bod y Cyngor yn chwifio baner yr enfys ar Ddiwrnod Aids y Byd – ni chefnogwyd hwn gan fod y cynghorwyr o’r farn ei bod yn annheg cysylltu’r gymuned LGBT ag Aids, ac y byddai hynny’n gam yn ôl.
“Yn hytrach, cytunwyd y byddai’r Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Aids y Byd drwy annog staff i wisgo’r rhuban coch a defnyddio mewnrwyd y staff/y cyfryngau cymdeithasol i rannu negeseuon, a gwnaethom hynny ar 1 Rhagfyr.
“ Yr ail gynnig oedd yr un mwyaf diweddar, a daeth hwn ar ôl cyfarfod Gweithgor Adolygu’r Cyfansoddiad a benderfynodd beidio â chefnogi newid i bolisi baneri’r Cyngor.
“Yn y bôn, roedd y cynghorwyr o’r farn y byddai’n gosod cynsail i ganiatáu i grŵp chwifio baner i godi ymwybyddiaeth o’i achos – sut byddent wedyn yn rheoli ceisiadau gan grwpiau eraill oedd am i’r Cyngor chwifio baner i godi ymwybyddiaeth o’u hachos nhw.
“Felly yn ôl y polisi, yr unig faneri i’w chwifio ar adeiladau’r Cyngor yw baner Cymru, Jac yr Undeb a baner y Cyngor.”