“Helpu i ddiogelu a gwarchod bywyd gwyllt Ynys Môn” – dyna yw bwriad cynllun gwlyptir Horizon, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.

Daw’r sylw yn ymateb i’r honiad gan fudiad ymgyrchu PAWB (Pobol Atal Wylfa B) mai cam “sinigaidd” yw cynllun y cwmni i ddatblygu cynefinoedd mewn rhannau eraill o’r ynys er mwyn gwneud iawn am ddifrodi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw’r atomfa.

Mae gan gwmni Horizon gynlluniau ar y gweill i osod dau adweithydd ym Môn, ond mae’r cwmni’n mynnu bod ganddyn nhw “ymrwymiad sylfaenol i fod yn amgylcheddol gyfrifol”.

“Fel un o brosiectau adeiladu mwyaf Ewrop, rydyn ni’n ymwybodol iawn bod adeiladu a gweithredu gorsaf pŵer niwclear yn brosiect tymor hir sy’n cynnwys ei heriau a’i effeithiau ei hun,” meddai’r llefarydd.

“Fel rhan o’r gwaith hwn rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gynnig i greu ardaloedd newydd o wlyptir ar Ynys Môn yn ogystal â gwella rhai sydd eisoes yn bod.”

Cyfarfodydd cyhoeddus

Roedd y llefarydd hefyd yn gwadu honiad Dylan Morgan o fudiad PAWB fod y cwmni’n ofni wynebu pobol gyffredin mewn cyfarfodydd cyhoeddus.

Yn ôl y cwmni maen nhw wedi ymateb i wahoddiad i fynd i “nifer o gyfarfodydd cyhoeddus” i roi cyflwyniadau ac ateb cwestiynau.

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal cymorthfeydd agored misol ers 2009, ac rydyn ni wedi ymgysylltu ag ymhell dros 1000 aelod o’r cyhoedd yn y digwyddiadau hyn,” meddai’r llefarydd.