Pobol sy’n gwneud llawer i gynrychioli Cymru y tu allan i’r wlad yw’r tri sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Dewi Sant ym maes diwylliant eleni.

Fe fydd y darlledwr Huw Edwards yn cystadlu yn erbyn pennaeth cwmni ffilmiau yn yr Unol Daleithiau a Chyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru.

Ac mae yna enwau adnabyddus eraill ar y rhestr, gan gynnwys capten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, a’r para-athletwr Aled Siôn Davies yn yr adran chwaraeon.

Fe gafodd y rhestr ei chyhoeddi heddiw ar ran y Prif Weiidog, Carwyn Jones, a sefydlodd y gwobrau bym mlynedd yn ôl.

“Grŵp eithriadol o bobol”

“Unwaith eto, mae’r rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn grŵp eithriadol o bobl. Mae pob copa walltog ohonyn nhw’n glod i Gymru,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Dw i’n edrych ’mlaen at gael dathlu’r pethau anhygoel y maen nhw wedi’u cyflawni yn y seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal ar 22 Mawrth.”

Un o’r mudiadau ar y rhestr yw Gôl! yr elusen sydd wedi codi o blith cefnogwyr pêl-droed Cymru ac sy’n aml yn codi arian a rhoi cymorth i wledydd lle mae Cymru’n chwarae.

Dyma’r rhestr …

Dewrder

Julian Rudge (Coed-duon)

Laura Matthews (Ardal De Orllewin Cymru)

Patrick Dunbar, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (Heddlu De Cymru)

Dinasyddiaeth

Chris Roberts (Rhuddlan)

Hilary Johnston (Caerdydd)

Mair Elliott (Sir Benfro)

Diwylliant

David Pountney (Caerdydd)

Huw Edwards (yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr)

Lynwen Brennan (yn wreiddiol o Benalun)

Menter

John Davies Recliners (Rhondda Cynon Taf)

Tiny Rebel Brewing Co (Tŷ-du)

William Watkins Radnor Hills (Trefyclo)

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

DevOpsGuys (Caerdydd)

IQE (Caerdydd)

Sure Chill (Caerdydd)

Rhyngwladol

Angela Gorman (Caerdydd)

GÔL! (Caerdydd)

Mike a Colette Hughes (Rwanda)

The Phoenix Project (Caerdydd)

Chwaraeon

Aled Sion Davies MBE

Alun Wyn Jones

Hollie Arnold MBE

Person ifanc

Bethany Roberts (Aberdaugleddau, Sir Benfro)

Jasmine Williams (Llanilltud Faerdref, Pontypridd)

Mercy Ngulube (Caerdydd)