Mae’r ffigurau diweddara’ am werthu cig oen mewn gwledydd tramor yn tanlinellu pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd,  meddai’r corff hyrwyddo Hybu Cig Cymru.

Ac maen nhw wedi rhybuddio y gallai Brexit caled beryglu peth o’r llwyddiant.

Mae’r ffigurau ar gyfer gwledydd Prydain i gyd ond Cymru sy’n gyfrifol am ran helaeth o’r gwerthiant, sydd wedi codi 14% yn gyfangwbl rhwng 2016 a 2017.

O fewn y ffigurau yna, fe fu cynnydd sylweddol mewn rhai gwledydd Ewropeaidd  – 25% yn yr Almaen, 16% yng Ngwlad Belg ac 13% yn Nenmarc a’r Eidal, rhai o farchnadoedd targed ffermwyr Cymru.

Er fod rhai marchnadoedd dnewydd yn tyfu, mae’r rheiny’n fach o gymharu â’r Undeb Ewropeaidd, meddai Rhys Llwyd, Rheolwr Datblygu’r Farchnad i Hybu Cig Cymru.

“Mae’r allforion yma’n dibynnu llawer ar… y gallu i fasnachu’n ddi-doll ar draws cyfandir sydd â 500 miliwn o gwsmeriaid.”

  • Mae 94% o holl allforion cig oen a dafad gweldydd Prydain yn mynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.