Mae angen ystyried “syniadau arloesol” a denu llongau rhyngwladol yn ôl i borthladd Caergybi, meddai un o gynghorwyr sir y dref.

Fe fyddai hynny’n un ffordd o leihau effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r peryglon o ffin dollau gydag Iwerddon,  meddai Shaun James Redmond.

Mae’n dweud nad yw’r drefn ar hyn o bryd yn ddigon da, gyda dau gwmni’n teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Iwerddon – fe ddylai’r porthladd ddatblygu cysylltiadau ehangach, meddai.

‘Pam nad ydy’r rhain yn dod i Gaergybi?’

“Dw i’n edrych allan o’r ffenest yn fy nhŷ a dw i’n gweld llongau yn pasio heibio ar eu ffordd i Lerpwl,” meddai’r cynghorydd sir annibynnol wrth golwg360.

“Mae’r llongau yma yn angori ger Moelfre ar arfordir gogleddol Ynys Môn. Ac maen nhw’n sefyll yna yn aros i’w safle angori ddod yn rhydd yn Lerpwl. A dw i’n meddwl wrtha’ i fy hun – ‘Pam nad ydy’r rhain ddim yn dod i Gaergybi?’”

Mae’n honni bod Stena Line – un o’r ddau gwmni fferi a’r un sy’n gyfrifol am y porthladd – yn amharod i weithio â chwmnïau eraill ac yn colli cyfle i ddenu “nwyddau, buddsoddiad a chyflogaeth bellach.”

Brexit Caled

Trwy ddenu cargo rhyngwladol mae’n dweud y byddai modd “lleddfu problemau Brexit Caled”, meddai Shaun Redmond gan ddweud y dylai gogledd Cymru fanteisio ar ei agosrwydd daearyddol at ogledd Lloegr.

Mae sylwadau’r cynghorydd yn cyd-daro â chyhoeddiad erthygl yn y Financial Times sydd yn awgrymu bod porthladd Dulyn yn paratoi ar gyfer Brexit caled.

Mae golwg360 wedi gofyn i Stena Line am sylw.