Fe ddylid canolbwyntio ar “geisio sicrhau cyfiawnder i Gymru” yn hytrach na rhoi gormod o sylw i’r adroddiadau o ffraeo mewnol o fewn Plaid Cymru.

Dyna yw neges Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, wrth ymateb i ddatganiad tanllyd arall diweddar – y tro hwn gan gangen Llanelli.

Ddoe (dydd Llun, Chwefror 12) fe anfonodd aelodau yn y dref honno ddatganiad i’r wasg yn cyfeirio at ddadlau tros ddewis ymgeisydd ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2017, gan weld bai yn benodol ar Alun Ffred Jones; yr arweinydd, Leanne Wood; a Phrif Weithredwr Plaid Cymru, Gareth Clubb.

Mae cangen Llanelli yn anwybyddu’r arweinyddiaeth hefyd o anwybyddu cwynion aelodau’r gangen.

Materion mewnol 

“Materion mewnol ydi’r rhain i’r blaid a’i phrosesau,” meddai Alun Ffred Jones wrth golwg360. “Mae yna ffyrdd o apelio ac mae’r broses ddisgyblu – os oes yna un yn digwydd – yn mynd ymlaen.”

Mae’r Cadeirydd yn mynnu nad yw “patrwm trefniadol” y blaid wedi newid, ac yn nodi bod modd i aelodau “leisio eu sylwadau” i’r pwyllgor gwaith trwy sawl dull.

“Ar hyn o bryd mae Cymru mewn argyfwng oherwydd Brexit, [sydd] â goblygiadau difrifol iawn i gymunedau ledled Cymru,” meddai wedyn.

“A hefyd mae yna fygythiad i’n democratiaeth ni. Ac oherwydd hynny mi ddylen ni fod yn canolbwyntio ein hegni ar … weithio’n galed i geisio sicrhau a diogelu buddiannau Cymru yn y dyfodol.

“Dyna le ddylai ein hegnïon ni fynd ar hyn o bryd.”

Neil McEvoy

Mae’r blaid eisoes wedi’i beirniadu am ddelio â chwynion tu ôl i ddrysau caeedig ac o beidio â chadw aelodau yn ymwybodol o’r hyn sydd ar waith.

Un achos sydd wedi denu cryn dipyn o sylw yw’r ymchwiliad i ymddygiad yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy. Cymaint oedd y pwysau, fel y bu’n rhaid i Blaid Cymru anfon llythyr at bob un o’i haelodau yn egluro’r sefyllfa.

“Mae’n anodd bob amser, cadw pawb yn ymwybodol o bopeth sy’n digwydd,” meddai. “Ond fe wnaed datganiad ynglŷn â [sefyllfa Neil McEvoy] oherwydd mae gymaint o gyhoeddusrwydd wedi bod a honiadau’n cael ei gwneud, ac fe anfonwyd llythyr yn esbonio’r sefyllfa ddiweddaraf.

“Mae hynny’n briodol, ac roedd hynny’n iawn.”

Mae Alun Ffred Jones yn ychwanegu bod Plaid Cymru wedi cydnabod bod prosesau “yn digwydd” mewn perthynas â Neil McEvoy, ac y bydd “rheiny yn dod i ben yn fuan”.