Mae dyn 19 oed o Lanelli wedi cael ei arestio a’i gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o gysylltu’n rhywiol tros y cyfryngau digidol gyda phlentyn.

Ac fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod ar hyn o bryd yn edrych ar tua 3 miliwn o luniau mewn ymchwiliadau gwahanol i droseddau rhyw.

Maen nhw wedi tynnu sylw at yr achosion er mwyn nodi Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel sy’n digwydd heddiw.

Cipio dau ffôn

Fe gafodd y dyn yn Llanelli ei arestio y bore yma ar ôl i dîmau heddlu alw yn ei gartref.

Maen nhw wedi mynd â dau ffôn symudol ac fe fuon nhw’n archwilio llechi electronig ac offer chwarae cyfrifiadurol.

Mae Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel yn digwydd bob blwyddyn bellach ac fe fydd heddluoedd, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, yn rhoi cyngor i rieni ac eraill am ffyrdd o sicrhau bod plant yn saff ar-lein.