Mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn fodlon cywiro cyhuddiad a wnaeth yn erbyn Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, ar ôl i Fwrdd Iechyd gydnabod ei fod wedi rhoi gwybodaeth anghywir amdano.
Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod wedi gofyn am esboniad llawn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac y bydd wedyn yn “hapus” i gywiro’i honiad.
Ond does dim sôn am ymddiheuriad am hynny nac am ddyfynnu e-byst preifat rhwng Adam Price a’r Bwrdd Iechyd – mater sy’n cae ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones.
Dadleuon stormus
Fe arweiniodd y cyhuddiad at ddadleuon stormus yn y Cynulliad ddydd Mercher wrth i aelodau Plaid Cymru gyhuddo Carwyn Jones o dorri’r rheolau cyfrinachedd trwy ddatgelu e-byst.
Roedd wedi cyhuddo Adam Price o beidio â chymryd rhan mewn trafodaeth am ddyfodol ysbytai lleol gan ddweud ei fod wedi methu at ymateb i gais am gyfarfod.
Bellach, mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cydnabod eu bod wedi methu â sôn am e-bost gan Adam Price ei hun yn gofyn am gyfarfod gyda nhw.
Y Bwrdd yn ymddiheuro
“Byddwn yn hoffi ymddiheuro i Adam fod camgymeriad yn ein brîff i Lywodraeth Cymu,” meddai Steve Moore. “Yn benodol cais a gawson ni ganddo ym mis Ionawr 2018 yn gofyn am gyfarfod i gael y newyddion cyffredinol diweddaraf ac i drafod mater etholaeth – cais yr oedden ni wedi’i fethu.”
Mewn datganiad heddiw, dyw Carwyn Jones y sôn dim am fater datgelu gwybodaeth ond mae’n dweud y bydd yn fodlon cywiro’r hyn ddywedodd e ar ôl cael cadarnhad gan y Bwrdd Iechyd.
Dyma’r union eiriau: “Os yw Hywel Dda wedi rhoi gwybodaeth anghywir mae hynny yn amlwg yn drueni ac maen nhw’n iawn i ymddiheuro. Mae’r Prif Weinidog wedi gofyn am esboniad llawn gan y Bwrdd Iechyd ac, unwaith y daw hwnnw, bydd yn hapus i gywiro’r cofnod yn unol â hynny.”
Does dim ymateb wedi dod eto gan Blaid Cymru.