Mae ymchwil gan fudiad ‘Prifysgolion Cymru’ yn dangos bod y sector addysg uwch yn cyfrannu dros £5bn i’r economi, a’u bod yn cefnogi bron i 50,000 o swyddi.

Cwmni Viewforth Consulting oedd wedi arwain ar yr ymchwil, sy’n dangos bod gweithgarwch y prifysgolion, eu myfyrwyr a’u teuluoedd a’u ffrindiau; yn ogystal â myfyrwyr tramor. wedi cyfrannu mwy na £5bn i Gymru yn y flwyddyn 2015-16.

Fe ddaw’r newyddion ar adeg ansicr iawn i brifysgolion oherwydd Brexit.

Effaith tu hwnt

Mae adroddiad Viewforth Consulting yn dangos fod effaith y prifysgolion i’w gweld y tu hwnt i’w hardaloedd hefyd, lle cafodd £561m o Werth Ychwanegol Gros (GVA) ei gynhyrchu, a 11,024 o swyddi eu creu.

A thrwy weithgaredd ryngwladol, meddai’r ymchwil, fe gynhyrchodd sefydliadau addysg uwch Cymru dros £544m sy’n gyfystyr â 4.1% o allforion nwyddau o Gymru yn ystod 2016.

‘Gwerth sylweddol’

Wrth ymateb i ganlyniadau’r ymchwil, dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Julie Lydon fod “gwerth sylweddol” i brifysgolion yng Nghymru.

“Nid symiau bach yw’r rhain, ac mae’r ffordd y mae prifysgolion yn ffynnu yn unigol a chenedlaethol, yn dangos eu bod yn cynnig cyfleoedd trwy gyflogaeth. Maen nhw hefyd yn achosi effaith arwyddocaol yn eu cymunedau ar gyfer arwain twf economaidd yn rhanbarthol a chymunedol.

“Rwy’n falch y gallwn brofi bod ein prifysgolion yn parhau i weithio ar gyfer Cymru gyfan,” meddai wedyn.

“Mae’r trefi a rhanbarthau lle nad oes campws prifysgol cyfagos yn dal i weld budd o’r gwerth a gynhyrchir gan y sector gyda dros 21% o’r holl GVA wedi ei greu gan brifysgolion yn cael ei gynhyrchu mewn ardaloedd lle nad oes presenoldeb prifysgolion.”