Bu farw’r cyn-Aelod Seneddol a fu’n cynrychioli Conwy a Chaerffili. Roedd Ednyfed Hudson Davies yn 88 oed.

Ac mae un arall o gyn-ASau Conwy, Betty Williams, a fu’n ymgyrchu drosto yn yr etholaeth, yn cofio amdano fel cymeriad brwdfrydig ac agos at bobol.

“Roedd yna grŵp ohonon ni o Sosialwyr Ifanc etholaeth Caernarfon ar y pryd aeth drosodd i etholaeth Conwy i’w helpu fo,” meddai Betty Williams.

“Roedd o’n frwdfrydig ofnadwy, y tristwch i mi oedd ei fod o wedi gadael y Blaid Lafur i fynd at yr SDP (yn 1981)…

“Ond ar wahân i hynny, o ran ymgyrchydd ar stepen drws, roedd Ednyfed yn credu bod eisio gweld pobol wyneb yn wyneb, a rhoi cyfle i bobol gofyn cwestiynau iddo fo.

“Roedd o’n berson oedd yn gwrando,” meddai Betty Williams wedyn. “Ges i’r profiad o’i weld o ar stepen y drws, sut oedd o’n parchu etholwyr, ac yn gwrando arnyn nhw.”

Gyrfa

Bu Ednyfed Hudson Davies yn Aelod Seneddol Conwy rhwng 1966 a 1970, ac yna’n cynrychioli Caerffili rhwng 1979 a 1983, cyn gadael y blaid a throi at yr SDP.

Yn 1981 y penderfynodd adael y Blaid Lafur ac ymuno â phlaid yr SDP, gan sefyll yn aflwyddiannus fel ymgeisydd yn Basingstoke.

Cyn cymryd at yrfa wleidyddol, roedd wedi bod yn un o ddarlledwyr cynnar teledu Cymraeg.